We are delighted to announce that Amentum, a global leader in advanced engineering and innovative technology solutions, has joined the Wales Nuclear Forum (WNF) and becomes our 100th member.

Chair of the Wales Nuclear Forum, Sasha Davies said, “We are thrilled that Amentum has decided to join the Wales Nuclear Forum, this indicates how important Amentum see nuclear new build and decommissioning in Wales, and from Wales to other locations, building strong partnerships with industry and academia alike. We look forward to introducing Amentum to our members and supporting them to develop their business in Wales.”

Jon Fowler, Amentum’s Vice President for Energy, said: “As the 100th member of the Wales Nuclear Forum, we’re backing Wales to play a full part in the nuclear resurgence now under way in the UK. There is huge potential for new developments at Wylfa and Trawsfynydd, while Project Arthur, the Welsh-led initiative to set up a national laboratory to produce medical radioisotopes, could make North Wales a global centre for nuclear medicine.

“We believe that strong collaboration across the sector in Wales will deliver lasting economic and environmental benefits for local communities. Our commitment to social value is embedded in everything we do, from investing in local talent and supply chains to supporting skills development and community engagement.”

Amentum works with clients around the world on nuclear design and new build, helping them provide a secure, low carbon, large-scale energy supply for the future. With more than 6,000 people in the UK, Amentum is the delivery partner for programme, project and construction management services at Hinkley Point C; sole program and project management delivery partner at Sizewell C; and also supports the UK’s existing nuclear power stations under a Lifetime Enterprise Agreement with EDF. It is a major supplier of engineering design, safety case and project management at Sellafield and other UK nuclear decommissioning sites and operates the country’s largest private sector complex of nuclear laboratories and engineering test facilities in Warrington.

***

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Amentum, arweinydd byd-eang mewn peirianneg ac atebion technoleg arloesol, wedi ymuno â Fforwm Niwclear Cymru (FfNC) ac yn dod yn 100fed aelod i ni.

Dywedodd Cadeirydd Fforwm Niwclear Cymru, Sasha Davies, “Rydym wrth ein bodd bod Amentum wedi penderfynu ymuno â Fforwm Niwclear Cymru, mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw adeiladu niwclear newydd a dadgomisiynu yng Nghymru i Amentum, gan adeiladu partneriaethau cryf hefo diwydiant a’r byd academaidd. Edrychwn ymlaen at gyflwyno Amentum i’n haelodau a’u cefnogi i ddatblygu eu busnes yng Nghymru.”

Dywedodd Jon Fowler, Is-lywydd dros Ynni i Amentum: “Fel 100fed Aelod o’r Fforwm Niwclear Cymru, rydym yn cefnogi Cymru i chwarae rhan lawn yn yr adfywiad niwclear sydd ar y gweill yn y DU. Mae yna botensial enfawr ar gyfer datblygiadau newydd yn Wylfa a Thrawsfynydd, tra gallai Prosiect Arthur, y fenter dan arweiniad Cymru i sefydlu labordy cenedlaethol i gynhyrchu radio isotopau meddygol, wneud Gogledd Cymru yn ganolfan fyd-eang ar gyfer meddygaeth niwclear.

“Credwn y bydd cydweithio cryf ar draws y sector yng Nghymru yn darparu buddion economaidd ac amgylcheddol parhaol i gymunedau lleol. Mae ein hymrwymiad i werth cymdeithasol wedi’i wreiddio ym mhopeth, o fuddsoddi mewn talent a chadwyni cyflenwi lleol i gefnogi datblygu sgiliau ac ymgysylltu cymunedol.”

Mae Amentum yn gweithio gyda chleientiaid ledled y byd ar ddylunio niwclear ac adeiladu newydd, yn helpu i ddarparu ynni diogel, carbon isel, ar raddfa fawr ar gyfer y dyfodol. Gyda mwy na 6,000 o bobl yn y DU, Amentum yw’r partner cyflawni ar gyfer gwasanaethau rheoli rhaglenni, prosiectau ac adeiladu yn Hinkley Point C; unig bartner cyflawni rheoli rhaglenni a phrosiectau yn Sizewell C; a hefyd yn cefnogi gorsafoedd pŵer niwclear presennol y DU o dan ‘Lifetime Enterprise Agreement’ gydag EDF. Mae’n gyflenwr mawr o ddylunio peirianneg, achosion diogelwch a rheoli prosiectau yn Sellafield a safleoedd dadgomisiynu niwclear eraill yn y DU ac yn gweithredu sector preifat mwyaf y wlad o labordai niwclear a chyfleusterau profi peirianneg yn Warrington.

Scroll to Top