Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus recriwtio’r Bwrdd sy’n targedu aelodau o Fforwm Niwclear Cymru yn gynharach yr haf hwn, mae’n bleser gennym gyhoeddi, yng nghyfarfod mis Gorffennaf, fod Bwrdd y Gronfa wedi cymeradwyo penodiad dau gyfarwyddwr newydd yn unfrydol – Debbie Jones o M-SParc a Stephanie McKenna o Gymdeithas y Diwydiant Niwclear.
Mae’r penodiadau yn dod â phrofiad eithriadol i’r Bwrdd ac yn dod â’r Gronfa yn agosach at ddau o’i sefydliadau rhanddeiliaid allweddol.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Debbie a Stephanie a mynd â’r Gronfa drwy ei cham datblygu nesaf sy’n cynrychioli buddiannau ei haelodau, rhanddeiliaid a’r sector cyfan.
Mae’r Bwrdd yn diolch i bawb a fynegodd ddiddordeb yn y rolau.