Rolls-Royce SMR wedi’i ddewis i adeiladu adweithyddion niwclear modiwlaidd bach

Mae Fforwm Niwclear Cymru wrth ei fodd yn clywed cyhoeddiad Llywodraeth y DU heddiw ar eu buddsoddiad o £14bn ar gyfer gorsaf bŵer niwclear Sizewell C a fydd yn darparu ynni glân, fforddiadwy a diogel i’r DU ac yn darparu miloedd o swyddi o ansawdd uchel ar draws cadwyn gyflenwi’r DU.

Yn ogystal, mae Fforwm Niwclear Cymru yn croesawu’r newyddion ardderchog bod Llywodraeth y DU wedi dewis Rolls-Royce SMR fel y cynigydd dewisol ar gyfer adeiladu adweithydd niwclear modiwlaidd bach (SMR) cyntaf y wlad.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i’r sector niwclear ledled y DU gyfan. Bydd Fforwm Niwclear Cymru yn cefnogi ein haelodau i dyfu ac elwa o’r datblygiadau niwclear cyffrous hyn.

https://www.gov.uk/government/news/rolls-royce-smr-selected-to-build-small-modular-nuclear-reactors

Scroll to Top