Hoffai Bwrdd y WNF ddweud ‘diolch yn fawr iawn’ i’n holl aelodau WNF, aelodau Cymdeithas y Diwydiant Niwclear a gwesteion a ddaeth i’n cinio Busnes Dydd Gŵyl Dewi blynyddol yn y Cornerstone, Caerdydd.
Noson ardderchog o rwydweithio, sgyrsiau gwych a ‘Hwyl’ – wrth wrando ar araith ragorol Iolo James NIA ar ynni niwclear ‘yn dod adref i Gymru’ yn Wylfa, Ynys Môn, roedd araith Lowri Morgan ar ôl cinio wedi ein syfrdanu ni i gyd o’i dygnwch, ei chydnerthedd, ei phositifrwydd a’i phenderfyniad llwyr yn erbyn pob disgwyl – am fenyw ryfeddol!
Fe wnaethoch chi gyd ei wneud yn ginio Busnes Dydd Gŵyl Dewi arbennig iawn ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi gyd yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf – cadwch lygad ar y gofod WNF hwn!
Diolch i noddwyr ein digwyddiad Costain Group PLC, Mott MacDonald, Camargue, Evolution Safety Solutions a TWI.